Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau

 

 

Dyddiad:                   9 Tachwedd 2016

 

Amser:                       9:30-11:00                

 

Teitl:               Papur tystiolaeth ynghylch Cyllideb Ddrafft 2017-18:  Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

 

 

1.         Cyflwyniad

 

Mae’r papur hwn yn cyflwyno sylwadau a gwybodaeth i’r Pwyllgor am bortffolio Cymunedau a Phlant a’r cynigion ar gyfer cyllidebau rhaglenni yn y dyfodol sydd wedi’u hamlinellu yn y Gyllideb Ddrafft a osodwyd ar 18 Hydref 2016.  

Fel y gofynnodd y Pwyllgor, mae Atodiad A yn darparu dadansoddiad o’r ffigurau perthnasol yn y Gyllideb Ddrafft ar gyfer Prif Grŵp Gwariant (MEG) Cymunedau a Phlant, fesul Cam Gweithredu ac fesul Llinell Wariant yn y Gyllideb (BEL).

 

2.         Cefndir

 

Mae dyraniadau dangosol 2017-18 yn deillio o Gyllideb Atodol Gyntaf 2016-17 a rhai addasiadau llinell sylfaen. Yr addasiad yn Nherfyn Gwariant Adrannol (DEL) Refeniw oedd £0.1m yn ychwanegol yng nghyswllt cyllid ‘Buddsoddi i Arbed’ CAFCASS. Mae’r newidiadau cyfalaf yn adlewyrchu’r ffaith y trosglwyddir Cyllid Cyfalaf Cyffredinol ar gyfer Awdurdodau Lleol yn ôl i’r MEG Llywodraeth Leol. Cyfanswm y newidiadau a gynigir ar gyfer y MEG Cymunedau a Phlant yn 2017-18 yw cynnydd o £13.3m yn y DEL Refeniw, £9.7m o ran y DEL Cyfalaf a gostyngiad o £1.2m mewn Gwariant a Reolir yn Flynyddol (AME). Mae’r tablau a ganlyn yn dangos yr effaith gyffredinol ar gyllideb llinell sylfaen Terfyn Gwariant Adrannol (DEL) Cymunedau a Phlant. 

 

Tablau Ariannol Cryno:

 

MEG Cymunedau a Phlant

 

Cyllideb Atodol

2016-17

 

 

£000

Cyllideb Ddangosol 2017-18

 

 

£000

Newidiadau2017-18

 

 

 

£000

Cynlluniau Newydd y Gyllideb Ddrafft 2017-18

£000

DEL Adnoddau

357,631

358,468

12,600

371,068

DEL Cyfalaf

376,370

328,012

9,693

337,705

Llinell sylfaen y DEL

734,001

686,480

22,293

708,773

Gwariant a Reolir yn Flynyddol

26,125

32,627

-1,242

31,389

 

 

Ym MEG cyffredinol Cymunedau a Phlant, yr elfennau sy’n berthnasol i’r Pwyllgor yw Cymunedau, Cydraddoldeb, Tai, Adfywio a Diogelwch Cymunedol. Mae’r cyllidebau ar gyfer yr elfennau hynny wedi’u crynhoi yn y tabl isod.

 

Cefnogi Cymunedau a Phobl

Cyllideb Atodol 2016-17

 

 

 

£000

 

Cyllideb Ddangosol 2017-18

 

 

 

£000

Newidiadau

2017-18

 

 

£000

Cynlluniau Newydd y Gyllideb Ddrafft 2017-18

£000

DEL Adnoddau

341,443

341,443

2,950

344,393

DEL Cyfalaf

373,370

328,012

8,433

336,445

Llinell sylfaen y DEL

714,813

669,455

11,383

680,838

 

Mae llinell y DEL Adnoddau yn cynnwys Dechrau’n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf yng Ngham Gweithredu newydd Atal ac Ymyrryd yn Fuan.

 

3.         Trosolwg o’r Gyllideb

 

Cyllideb yw hon sydd wedi’i datblygu yn erbyn cefndir o gyfnod ansicr ac anodd. Bydd canlyniad y refferendwm ar yr UE yn ail-lunio ein perthynas â’r Undeb Ewropeaidd yn y tymor hir; a cheir ansicrwydd am ddyfodol ffrydiau cyllid Ewropeaidd pwysig a’r effaith ar gyllid cyhoeddus y DU a chyllideb Cymru. 

 

Rydym yn parhau i wynebu toriadau parhaus i’n cyllid cyffredinol gan Lywodraeth y DU – mae’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid, sef llais dylanwadol, wedi nodi bod Cymru’n wynebu sefyllfa eithriadol o 11 neu ragor o flynyddoedd o gwtogi ar wariant gwasanaethau cyhoeddus.

 

Mae hyn yn golygu ein bod ni – Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru – yn wynebu dewisiadau anodd wrth inni barhau i weithio i ddiogelu ein gwasanaethau cyhoeddus rhag y gwaethaf o blith yr effeithiau hyn a buddsoddi yng Nghymru er mwyn cynyddu nifer y swyddi a thyfu’n heconomi, gan symud ein gwlad ymlaen.

 

Bydd Llywodraeth y DU yn cyhoeddi Datganiad yr Hydref ym mis Tachwedd. Er bod datganiadau cynnar gan Ganghellor y Trysorlys yn dangos na fydd y Trysorlys yn anelu mwyach at gyflawni gwarged erbyn 2020, mae wedi dweud hefyd nad diwedd ar gyni yw hyn. Dyna pam, yn ein Cyllideb Ddrafft, yr ydym wedi penderfynu cyhoeddi cynlluniau gwariant refeniw ar gyfer 2017-18 yn unig a chynlluniau cyfalaf ar gyfer pedair blynedd. Mae’r cynlluniau cyfalaf yn rhoi sicrwydd ar gyfer buddsoddiadau tymor hir ac yn hwyluso’r dull gweithredu strategol sydd ei angen er mwyn cynllunio datblygiadau.

 

Erbyn hyn, rydym yn ail flwyddyn setliad Adolygiad Llywodraeth y DU o Wariant, a bennodd gyllideb refeniw Llywodraeth Cymru o 2016-17 hyd at 2019-20 a’r gyllideb gyfalaf tan 2020-21. Ar y cyfan, bydd cyllideb Cymru yn parhau i leihau mewn termau real dros y cyfnod hwn.

 

Mae’r toriadau sydd i ddod yn ychwanegu at y gostyngiadau termau real olynol a wnaed ers 2010-11. Atgyfnerthodd gostyngiadau’r Adolygiad o Wariant i’n setliad waith Llywodraeth y DU o dorri gwariant cyhoeddus a’i hymrwymiad i gyni. Bydd ein cyllideb 9% yn llai mewn termau real erbyn diwedd y degawd – mae hyn yn cyfateb i bron £1.5bn yn llai mewn termau real i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn 2019-20 nag yn 2010-11.

 

Mae canlyniad y refferendwm ar yr UE wedi ychwanegu at lefel yr ansicrwydd ynglŷn ag adnoddau i Gymru yn y dyfodol. Bydd gadael yr UE yn cael effaith ar yr adnoddau sydd ar gael i Gymru gan ei bod yn elwa ar £650m y flwyddyn o amryw o ffrydiau cyllid Ewropeaidd.

 

Ar ôl inni asesu effaith Datganiad yr Hydref, ein bwriad yw cyhoeddi rhagdybiaethau cynllunio ar gyfer 2018-19 a 2019-20 yn y flwyddyn newydd.  Mae ein penderfyniad i gyhoeddi cyllideb refeniw ar gyfer blwyddyn yn golygu ein bod yn rhoi sefydlogrwydd i wasanaethau creiddiol ac yn buddsoddi mewn blaenoriaethau presennol. Mae hyn yn creu sylfaen sefydlog er mwyn inni reoli’r cyfnod ariannol anodd sydd ar y gweill mewn ffyrdd arloesol gyda’n partneriaid a’n rhanddeiliaid. 

 

O ran yr hyn sy’n ymwneud â’m portffolio i yn benodol, rwyf wedi cynnig uno tri o’r Meysydd Rhaglenni Gwariant presennol (Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd; Cefnogi Cymunedau a Phobl a CAFCASS), a galw’r maes hwnnw’n ‘Galluogi Plant a Chymunedau’. Yn y Maes Rhaglenni Gwariant newydd, byddai tri Cham Gweithredu i gwmpasu Cefnogi Plant, Atal ac Ymyrryd yn Fuan, a’r Trydydd Sector/Cynhwysiant Ariannol. Y prif wahaniaeth yw y byddai Cam Gweithredu Atal ac Ymyrryd yn Fuan yn cyfuno’r cyllidebau refeniw ar gyfer Dechrau’n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf a Chymunedau yn Gyntaf. Nid wyf yn bwriadu uno’r rhaglenni eu hunain ar hyn o bryd ond byddai’r cynnig hwn yn rhoi cyfle i fod yn fwy hyblyg wrth wneud penderfyniadau ar ôl proses ymgysylltu Cymunedau yn Gyntaf.

 

Dull integredig, hirdymor o ymdrin â chyllid cyfalaf

 

Yn y gyllideb hon, mae gennym gyfle i ysgogi buddsoddiadau yn yr economi; gwneud gwelliannau i wasanaethau cyhoeddus hanfodol a dechrau cyflawni’r blaenoriaethau allweddol a nodir yn Symud Cymru Ymlaen. 

 

Mewn blynyddoedd blaenorol, cyllid trafodion ariannol a chyfalaf traddodiadol yn bennaf a fu ar gael inni er mwyn ariannu prosiectau seilwaith cyhoeddus – erbyn hyn, mae pwerau benthyg newydd a modelau cyllid mwy arloesol ar gael i Gymru wrth i lefel y cyfalaf cyhoeddus sydd ar gael barhau i ostwng.

 

Byddwn yn pennu cyllideb gyfalaf ar gyfer pedair blynedd – mae hyn yn cyd-fynd â’r setliad cyfalaf a nodwyd yn Adolygiad y DU o Wariant yn 2015 – ac mae’n cynnwys cyllideb gadarn ar gyfer 2017-18 a dyraniadau dangosol ar gyfer y tair blynedd ddilynol. Mae’n bwysig ein bod mor dryloyw ag y bo modd ac yn rhoi cymaint o sicrwydd ag y gallwn i’n partneriaid cyflawni a’n rhanddeiliaid allweddol er mwyn creu buddsoddiadau cyfalaf, ac felly rydym wedi dod i’r casgliad mai gweithredu drwy ystyried cyfalaf yn y tymor hir yw’r penderfyniad cywir.

 

Cronfeydd wrth gefn

 

Ein dull o weithredu yw uchafu’r dyraniadau i bortffolios gan gadw lefel ddarbodus o gronfeydd wrth gefn canolog ar gyfer pwysau nas rhagwelwyd. Er bod yr egwyddor hon yr un mor gymwys i’n cyllidebau refeniw a chyfalaf, rydym yn cynyddu cronfeydd cyfalaf wrth gefn ymhellach gan sicrhau bod digon o gronfeydd canolog ar gael i ategu’r ymrwymiadau yr ydym yn eu blaenoriaethu wrth iddynt fynd yn eu blaen dros dymor y Cynulliad.

 

O ganlyniad, mae ein cronfeydd adnoddau wrth gefn ar gyfer 2017-18 yn cyfateb i 1.7 y cant o Derfyn Gwariant Adrannol Adnoddau ac mae Cronfeydd Cyfalaf wrth gefn yn cyfateb i 7.1 y cant o Derfyn Gwariant Adrannol Cyfalaf, gan godi i lefel rhwng 30 a 34 y cant yn y tair blynedd ddilynol. Rydym yn fodlon y bydd y lefelau hyn o gronfeydd wrth gefn yn ein galluogi i reoli risgiau ac ymateb i bwysau nas rhagwelwyd, tra byddant yn rhoi sicrwydd o ran cyllid i Ysgrifenyddion Cabinet unigol er mwyn dechrau cynllunio a chyflawni’r ymrwymiadau allweddol a nodir yn Symud Cymru Ymlaen.

 

Cymunedau a Phlant

 

O ran fy mhortffolio, mae hyn yn golygu cyllid ychwanegol (wedi’i ddyrannu ac mewn cronfeydd wrth gefn) ar gyfer cyrraedd y targed o 20,000 o gartrefi a boddhau’r ddyletswydd ynghylch safleoedd Sipsiwn a Theithwyr; cyllid sy’n parhau ar gyfer y Gronfa Gofal Canolraddol, y Rhaglen Addasiadau Brys, a chyllidebau Cymunedau Diogelach; ond gostyngiadau i gyllid Adfywio. Rwy’n ceisio dewisiadau i gryfhau’r cyllidebau Adfywio, gan gynnwys defnyddio incwm a balansau Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio a thrwy symiau canlyniadol Datganiad yr Hydref os byddant yn bositif a’r Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn cytuno i hynny. Rwy’n darparu rhagor o fanylion yn y naratif isod ond bydd angen cyflwyno rhai o’r pwyntiau mwyaf manwl ar ôl y datblygiadau dros yr wythnosau i ddod, a dylai’r manylion fod yn fwy cadarn ar gyfer y Gyllideb Derfynol ym mis Rhagfyr. Mae’r gyllideb gyfalaf am Wasanaethau Tân ac Achub wedi cynyddu £300,000 i £1.3m yn 2017-18 er mwyn ategu datblygiad seilwaith y Rhwydwaith Gwasanaethau Brys.

 

4.            Y Rhaglen Lywodraethu

 

Cyllideb yw hon i symud Cymru ymlaen, rhoi sefydlogrwydd i’n gwasanaethau creiddiol a gwneud cynnydd o ran gweithredu ein Rhaglen Lywodraethu uchelgeisiol, sef Symud Cymru Ymlaen 2016-21:

http://gov.wales/docs/strategies/160920-taking-wales-forward-cy.pdf.

 

Mae Symud Cymru Ymlaen yn nodi sut y byddwn yn creu mwy o swyddi, a swyddi gwell, drwy gyfrwng economi gryfach a thecach, yn gwella ac yn diwygio gwasanaethau cyhoeddus ac yn adeiladu Cymru unedig, gysylltiedig a chynaliadwy; a datblygiad pedair strategaeth drosfwaol:

·           Ffyniannus a diogel

·           Iach ac egnïol

·           Uchelgais a dysgu

·           Unedig a chysylltiedig

 

Bydd y strategaethau hyn yn ategu Symud Cymru Ymlaen ac yn ein galluogi i ddefnyddio pob dull sydd ar gael inni er mwyn cael yr effaith fwyaf a chyflawni addewid Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol. Rydym wedi ymrwymo i greu awyrgylch sy’n annog gwaith cyflawni arloesol yn yr amgylchedd presennol, ac awyrgylch y mae atal ac ymyrryd yn fuan yn nodweddion amlwg arno. Mae cydweithredu, partneriaethau, ac effeithlonrwydd yn hollbwysig ar draws y gwasanaethau cyhoeddus, fel y mae ein herio ein hunain a’n partneriaid i ddefnyddio ein hadnoddau ar y cyd i uchafu’r manteision sy’n deillio o’n hymdrechion ar y cyd. Mae Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhoi sylfaen gref i ni, a chyrff cyhoeddus eraill, adeiladu arni. 

 

5.            Polisïau allweddol

Trechu Tlodi

 

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith yn gyfrifol am gydlynu mesurau trosfwaol i hyrwyddo cyfleoedd economaidd i bawb. Rwy’n gyfrifol am dlodi plant. Mae gwella deilliannau i gartrefi incwm isel yn gyfrifoldeb a rennir gan bob Ysgrifennydd Cabinet a Gweinidog.

 

Mae ystod eang o bolisïau a rhaglenni’n cael eu datblygu ar draws y Llywodraeth sy’n ceisio mynd i’r afael â thlodi, gan gynnwys y Grant Amddifadedd Disgyblion, Rhaglen Plant Iach Cymru ac ymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu, fel y 100,000 o brentisiaethau a’r Rhaglen Gyflogadwyedd newydd i Bob Oedran.

 

Yn fy mhortffolio, rwy’n ariannu rhaglen o ymgysylltu’n allanol â rhanddeiliaid allweddol a hyfforddiant, gyda’r bwriad o ledaenu arferion da o ran trechu tlodi plant, diwygiadau lles a gwella deilliannau cartrefi sydd ag incwm isel. Mae’n hollbwysig gweithio gyda rhanddeiliaid allanol, gan nad Llywodraeth Cymru sy’n rheoli pob agwedd ar drechu tlodi plant.

 

Yn 100 niwrnod cyntaf y Llywodraeth, buom eisoes yn gweithio ar ein hymrwymiadau i wella llewyrch economaidd a threchu tlodi yng Nghymru. Yn arbennig, rydym wedi cymryd camau i ddiogelu economi Cymru yn dilyn pleidlais y DU i adael yr UE. Bydd y Rhaglen Lywodraethu newydd yn parhau â’r ffocws cryf hwn ar leihau anghydraddoldebau a hybu llewyrch.

 

 

Cymunedau yn Gyntaf

 

Rhaglen grantiau yw Cymunedau yn Gyntaf y mae £31m wedi’i ymrwymo iddi ar hyn o bryd yn ei Llinell Wariant yn y Gyllideb.  Mae’r cyd-destun y mae Cymunedau yn Gyntaf yn gweithredu ynddo wedi newid yn sylweddol ers 2001.

 

Yn fy Natganiad Llafar ar 11 Hydref, amlinellais fy null newydd arfaethedig o ymdrin â chymunedau. Yn fy natganiad, nodais fy mod yn ystyried dileu Cymunedau yn Gyntaf yn raddol. Ni fyddaf yn gwneud penderfyniad terfynol tan ar ôl cyfnod o ymgynghori. Rydym yn ymgysylltu â rhanddeiliaid ynghylch ein dull o weithredu yn y dyfodol, gan gynnwys y cynnig i ddileu Cymunedau yn Gyntaf yn raddol a sut y byddwn yn parhau i ddarparu Cymunedau am Waith ac Esgyn.  Rydym yn ceisio safbwyntiau ynglŷn â sut rydym yn cynnwys, cynorthwyo ac yn cryfhau cymunedau drwy ein dull gweithredu newydd, sy’n canolbwyntio ar barhau i gynyddu gwydnwch cymunedau er mwyn hyrwyddo cyfleoedd i bawb.

 

Rwy’n bwriadu canolbwyntio ar dri maes allweddol o hyn ymlaen, sef: cyflogaeth, y blynyddoedd cynnar, a grymuso.

 

Cyflogaeth yw’r ffordd orau a mwyaf cynaliadwy o adael tlodi, ac mae’n rhan sylfaenol o ddull newydd o ymdrin â chymunedau. Rydym wedi gwneud ymrwymiad mawr i Esgyn a Chymunedau am Waith, a bydd y rhaglenni cyflogaeth pwysig hyn yn parhau fel y’u cynlluniwyd. Ar draws y Llywodraeth, rydym yn hyrwyddo llewyrch i bawb. Bydd creu cynnig gofal plant hael i rieni sy’n gweithio yn helpu i ddileu un o’r prif rwystrau i gyflogaeth, yn ogystal â darparu manteision hirdymor i bob un o’n plant.

 

Mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn fygythiad mawr i lesiant a llewyrch economaidd. Er mwyn mynd i’r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, mae gofyn inni fod yn fwy deallus o ran ymyrryd yn gynharach ym mywydau’r aelodau ieuengaf o’n cymdeithas. Rwy’n llawn sylweddoli’r heriau sy’n gysylltiedig â gwneud hyn, ond os ydym am dorri’r cylch rhaid inni symud mwy o adnoddau at atal ac amddiffyn.

 

Mae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, a sefydlwyd gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, yn cynnig dull hollbwysig o greu cymunedau mwy grymus.  Mae awdurdodau lleol hefyd â rhan allweddol i’w chwarae mewn canfod ffyrdd o wella llesiant cymunedau lleol, gan ymgorffori dulliau gweithredu integredig, cydweithredol, hirdymor ac ataliol, tra byddant yn adlewyrchu amrywiaeth lawn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Rwyf wedi cychwyn trafodaethau â nifer o awdurdodau lleol, sydd wedi’u cynorthwyo gan eu Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, sy’n bwriadu datblygu dulliau mwy integredig ac sy’n grymuso, sy’n cynnig cyfle iddynt i dreialu mwy o hyblygrwydd ac annibyniaeth ariannol. Bydd y dull gweithredu hwn yn adeiladu ar sail gwaith Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i ddiwygio llywodraeth leol, gan sicrhau mwy o gyfranogiad ym myd cymdeithas sifil a democratiaeth.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gryfhau’r ddarpariaeth gymunedol o ofal iechyd a chymdeithasol, gan symud y rhain o ysbytai ac i gymunedau, pan fo modd. Mae ysgolion a cholegau hefyd yn chwarae rhan allweddol a byddwn yn treialu model newydd o Ganolfannau Dysgu Cymunedol, gan ymestyn mynediad y gymuned at wasanaethau, gan gynnwys gofal plant, cymorth rhianta, a dysgu i’r teulu. Byddwn yn hyrwyddo proses o gydleoli ac integreiddio gwasanaethau, gan adeiladu ar sail modelau llwyddiannus a ddatblygwyd ledled Cymru a thu hwnt. Byddwn yn datblygu dull ‘Gwnaed yng Nghymru’ o ymdrin ag asedau cymunedol. Byddwn yn cyflwyno mesurau i atal achosion diangen o gau ac i helpu cymunedau i fod yn berchen ar asedau cymunedol pan fo’n briodol. Nodwedd ymhlyg ar hyn, ac yn wir ym mhob rhan o’n dull newydd o ymdrin â chymunedau, yw rôl bwysig i’r Trydydd Sector.

 

Diwygiadau Lles

 

Rwy’n pryderu’n fawr am effaith diwygiadau lles Llywodraeth y DU a’r goblygiadau i unigolion, teuluoedd a chymunedau.

 

Rydym yn cymryd camau i helpu pobl i reoli effeithiau newidiadau Llywodraeth y DU i fudd-daliadau lles. Fodd bynnag, ni allwn wneud hyn ar draul ein gwaith i fynd i’r afael ag achosion gwreiddiol tlodi drwy wella cyfleoedd bywyd plant a gwella cyflogadwyedd. 

 

Byddwn yn parhau i wneud popeth yn ein gallu i helpu pobl i ymdopi ag effeithiau’r diwygiadau hyn:

·         Mae darparu cartref diogel, cynnes a sicr i bobl yn flaenoriaeth allweddol. Dyna pam rydym wedi ymrwymo i darged uchelgeisiol o ddarparu 20,000 yn rhagor o gartrefi fforddiadwy yn ystod tymor y llywodraeth hon. Mae’r targed hwn yn ail-gadarnhau fy ymrwymiad i’r cyflenwad o dai.

·         Am yr un rheswm, rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i sicrhau bod pob un o’r 221,000 o gartrefi cymdeithasol presennol yn cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn 2020 a’u bod yn cael eu cynnal wedyn.

·         Byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth i roi terfyn ar yr Hawl i Brynu; os caiff ei phasio gan y Cynulliad, bydd y ddeddfwriaeth hon yn amddiffyn ein stoc werthfawr o dai cymdeithasol rhag gostwng ymhellach ac yn creu hyder ymhlith landlordiaid cymdeithasoli fuddsoddi ac adeiladu mwy.

·         Rydym yn ariannu ystod o wasanaethau cynghori i gynorthwyo pobl ar hawliau lles, dyled, tai a materion gwahaniaethu. Mae’r rhain yn cynnwys cymorth arbennig i deuluoedd sydd â phlant ag anableddau a phobl hŷn a gofalwyr er mwyn uchafu eu hawl i incwm.

·         Rydym wedi darparu cymorth ychwanegol i’r rhai y mae ei angen arnynt drwy gyfrwng ein cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, ynghyd â chymorth brys drwy ein Cronfa Cymorth Dewisol.

·         Bydd ein partneriaeth ag Awdurdodau Lleol a sefydliadau’r Trydydd Sector i atal pobl rhag dod yn ddigartref yn parhau, gan adeiladu ar sail canlyniadau cynnar calonogol iawn ein deddfwriaeth newydd ar ddigartrefedd. 

I’r rhai sy’n gallu gweithio, byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar helpu pobl i ganfod swyddi ac aros yn y swyddi hynny. Rydym yn darparu hyn drwy ein hagenda sgiliau ac ein mentrau cyflogaeth a chymunedol gan gynnwys Cymunedau am Waith; Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth; ac Esgyn. Mae rhaglen waith yn mynd rhagddi i asesu holl oblygiadau’r newid yn y trefniadau ar gyfer Budd-dal Tai yng nghyswllt Tai â Chymorth. Mae camau tebyg ar waith yng nghyswllt costau Llety Dros Dro, y mae’r cyllid ar ei gyfer wedi’i ddatganoli.

 

Er ein bod yn parhau i deimlo effaith pob un o’r newidiadau hyn, rydym wedi ymrwymo o hyd i ddefnyddio pob dull sydd ar gael er mwyn lleihau anghydraddoldebau, gwella llewyrch a chynyddu cyfranogiad pobl yn y farchnad lafur. Mewn rhai ardaloedd, rydym yn gwneud cynnydd pwysig: mae nifer y bobl sydd mewn gwaith bron wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed ac mae nifer y cartrefi di-waith yng Nghymru yn dal i ostwng.

 

Diogelwch Cymunedol

 

Mae’r cyllid ar gyfer Maes Rhaglenni Gwariant Cymunedau Diogelach wedi’i gadw ar lefel arian wastad. Mae hyn yn cynnwys y Camau Gweithredu ynghylch Hybu Ymgysylltiad Cadarnhaol i Bobl ifanc, Gwasanaethau Tân ac Achub, a Cham-drin Domestig.

 

Mae cyllid Hybu Ymgysylltiad Cadarnhaol i Bobl Ifanc (sydd mewn perygl o droseddu) yn cynorthwyo prosiectau sy’n anelu at droi pobl ifanc o droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ac mae’n targedu’r bobl ifanc sydd â’r risg fwyaf o droseddu. Mae ymgorffori ymyriadau buan er mwyn atal problemau rhag digwydd, neu waethygu, yn cyd-fynd â’r gwaith sy’n cael ei wneud i fynd i’r afael â phrofiadau newidiol yn ystod plentyndod. Mae’r cyllid hefyd yn cynorthwyo prosiect Rheoli Achosion yn Well a ddatblygwyd ar y cyd â Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru. Mae’r cyllid ar gyfer cyfiawnder ieuenctid yn helpu i dorri’r cylch o anfantais ac anghydraddoldeb; datblygu ymddygiadau cadarnhaol drwy’r blynyddoedd ffurfiannol; a sicrhau bod pobl ifanc yn cyrraedd cerrig milltir allweddol o ran eu datblygiad er mwyn ennill swyddi a meddu ar iechyd a lles ehangach.

 

Mae plant a phobl ifanc o gartrefi sydd ag incwm isel yn fwy tebygol o droseddu ac o ymddwyn yn wrthgymdeithasol, felly bydd parhau’r cyllid hwn ac atal troseddu ymysg pobl ifanc yn cael effaith gadarnhaol ar y cymunedau tlotaf yng Nghymru. Mae natur ataliol y prosiectau Cyfiawnder Ieuenctid yr wyf yn eu hariannu yn galluogi meysydd datganoledig a meysydd nad ydynt wedi’u datganoli i gydweithredu, integreiddio, a bod yn rhan o’r gwaith. Bydd mynd i’r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn helpu i leihau’r baich ar wasanaethau eraill Llywodraeth Cymru – Iechyd, iechyd meddwl, Gwasanaethau Cymdeithasol - tra bydd yn cynyddu’r cyfleoedd o ran addysg a chyflogaeth i’r bobl ifanc a gafodd eu helpu. Yn y tymor hir, bydd hyn yn helpu i sicrhau bod cymunedau diogel a chefnogol ledled Cymru a bod pobl ifanc yn cyrraedd eu gwir botensial cyn gynted ag y bo modd.

 

Mae rhaglenni diogelwch tân cymunedol yn anelu at gynnal y gostyngiad hirdymor yn nifer yr achosion o danau a’u difrifoldeb. Canolbwyntir yn arbennig ar danau anheddau, sy’n peri’r bygythiad mwyaf i fywyd, ac ar danau sy’n cael eu cynnau’n fwriadol, sy’n achosi pryder difrifol i gymunedau mewn rhannau o Gymru. Mae’r Awdurdodau Tân ac Achub yn cynnal gwiriadau diogelwch tân cartrefi i ddarparu cyngor cynhwysfawr i gartrefi sy’n wynebu risg (e.e. pobl hŷn, pobl sydd ag anabledd, a rhieni sengl), er mwyn lleihau’r risg o dân i’r eithaf. Ychwanegir at hyn drwy ddarparu offer fel larymau mwg, dillad gwely sy’n gwrthsefyll tân, ac (yn yr achosion lle y ceir y risg fwyaf) systemau chwistrellu cludadwy. Ymysg y rhaglenni i fynd i’r afael â thanau bwriadol a throseddau eraill sy’n gysylltiedig â thân mae gweithgareddau cyflwyno gwybodaeth a chodi ymwybyddiaeth gyffredinol, sydd wedi’u targedu at bobl ifanc yn arbennig, a gweithgareddau dargyfeirio mwy dwys gyda throseddwyr hysbys a’r rhai sy’n debygol o droseddu. Mae Awdurdodau Tân ac Achub yn gweithio’n agos gyda’r heddlu ac asiantaethau eraill yn y maes hwn. 

 

Yn 2017-18, mae £5.4 miliwn ar gael o’r Grant Gwasanaethau Cam-drin Domestig. Mae’r cyllid hwn yn caniatáu i Awdurdodau Lleol a’r gwasanaethau arbenigol ganolbwyntio ar weithredu’r Ddeddf, gan gynnwys gwella gwasanaethau i ddioddefwyr camdriniaeth. Caiff eu gwaith ei gynorthwyo gan Raglen Cefnogi Pobl, sydd hefyd yn darparu cyllid i atal camdriniaeth ddomestig ac i helpu dioddefwyr. Cynhaliwyd Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb ar gyfer yr ymgynghoriad ar Strategaeth Genedlaethol ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2016-2021. Mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn tramgwyddo hawliau dynol yn sylfaenol, maent yn achosi anghydraddoldeb ac yn ganlyniad iddo, ac maent yn peri goblygiadau pellgyrhaeddol i deuluoedd, plant a’r gymdeithas yn ei chyfanrwydd. Mae’r Strategaeth Genedlaethol yn cyflwyno amcanion sy’n anelu at ddileu pob math o drais yn erbyn menywod, camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol, a sicrhau, pan fo angen, fod gwasanaethau priodol ar waith i gynorthwyo’r goroeswyr.

 

 

 

Y Trydydd Sector

 

Bydd cynaliadwyedd ffynonellau cyllid cyhoeddus a ffynonellau cyllid eraill i sefydliadau’r Trydydd Sector yn fater allweddol yn y dyfodol, yn arbennig mewn cysylltiad â gadael yr UE. Dyna pam yr wyf wedi cynnal y gyllideb ar lefel 2016-17.  Er mwyn deall yn llwyr yr effaith ar fy mhortffolio a’r Trydydd Sector yn fwy cyffredinol, byddaf yn comisiynu Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector i ystyried y materion hyn dros y flwyddyn i ddod. Byddaf hefyd yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ystyried sut y byddwn yn bwrw ymlaen â’r ymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu i weithio gyda dosbarthwyr loteri i fuddsoddi mewn cronfa gynaliadwyedd ar raddfa fawr er mwyn i sefydliadau gwirfoddol dyfu a llwyddo.

 

Gan fy mod wedi cynnal cyllid 2017-18 ar y lefelau presennol, rwy’n disgwyl y bydd canlyniadau tebyg dros gyfnod y grant hwn. Er enghraifft, 8,000 o gyfleoedd gwirfoddoli wedi’u hyrwyddo; 4,600 o wirfoddolwyr (y mae gan nifer ohonynt anghenion cymorth uwch) wedi’u helpu i fynd i swyddi gwirfoddoli; 4,500 o bobl wedi’u hyfforddi mewn llywodraethu da, codi arian, gweithio gyda gwirfoddolwyr, y mae pob un ohonynt yn helpu sefydliadau cymunedol a gwirfoddol i ffynnu. Bu 900 o sefydliadau’r Trydydd Sector yn helpu i gyfrannu at grwpiau cynllunio strategol, neu buont yn aelodau ohonynt (gan gynnwys dylanwadu ar ddyluniad gwasanaethau cyhoeddus a’r dull o’u darparu).

 

Yn ystod yr haf, cynhaliodd Cefnogaeth i’r Trydydd Sector yng Nghymru adolygiad strategol o bob un o’i wasanaethau er mwyn sicrhau cynaliadwyedd a gwerth am arian. Ymysg y newidiadau mae symleiddio cymorth e.e. drwy uno dau gynllun grantiau gwirfoddoli a gwefannau a thrwy gydweithredu agosach rhwng sefydliadau. Bydd yr holl waith hwn yn cyfrannu at ymdrechion i sicrhau bod y cymorth y mae Cefnogaeth i’r Trydydd Sector yng Nghymru yn ei gynnig ar gael yn y tymor hwy er mwyn i sefydliadau cymunedol a gwirfoddol lleol ffynnu. 

 

Mae’n debyg y bydd y Trydydd Sector yn ei gyfanrwydd yn profi effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ac yn arbennig mewn cysylltiad ag unrhyw ostyngiad mewn cyllid. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â Chyngor Partneriaeth y Trydydd Sector a rhwydweithiau eraill y Trydydd Sector er mwyn trafod hyn yn llwyr a chynllunio ar gyfer y dyfodol pan fo angen. Pan fo’r effaith hon i’w chael ar sefydliadau sy’n rhan o Cefnogaeth i’r Trydydd Sector yng Nghymru (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a 19 o Gynghorau Gwirfoddol Sirol), byddwn yn ystyried yn ofalus gynaliadwyedd y gwasanaethau y maent yn eu darparu yn y tymor hwy. 

 

Cynhwysiant Ariannol

 

Mae’r cyllid ar gyfer Gwasanaethau Cynghori a’r Gronfa Cymorth Dewisol yn cael ei fonitro’n helaeth er mwyn sicrhau eu bod yn cyflawni deilliannau cadarnhaol i’r dinasyddion y mae angen y cymorth mwyaf arnynt. Mae gwerthusiadau blaenorol wedi dangos yr effaith gadarnhaol y mae’r rhaglenni hyn yn ei chael ac felly rwyf wedi cynnal y cyllidebau hyn ar lefelau 2016-17.

 

Cafodd gwerthusiadau eu cyhoeddi ynghylch Cyngor Da, Byw’n Well ar 25 Tachwedd 2015 a’r Grant ar gyfer Gwasanaethau Cynghori Rheng Flaen (FLASG) ar 29 Mawrth 2016 sy’n tynnu sylw at y gwaith da ac sy’n argymell fod y ddau brosiect yn parhau. Rhwng mis Ebrill 2015 a mis Mawrth 2016, bu’r grant hwn yn galluogi sefydliadau i ymateb i fwy na 52,300 o geisiadau am wybodaeth a chyngor, gan sicrhau bron £14 miliwn o enillion incwm i’r bobl y maent wedi’u cynorthwyo. Ers dechrau’r prosiect hwn yn 2012, mae Cyngor Da, Byw’n Well wedi helpu dros 72,700 o bobl gan greu enillion wedi’u cadarnhau gwerth mwy na £66.5 miliwn. Nododd y gwerthusiad fod prosiect Cyngor Da, Byw’n Well wedi cael effaith gadarnhaol sylweddol ar y rhai sy’n defnyddio’r gwasanaethau y mae’n eu cefnogi gyda chyfran fawr o’r cleientiaid sy’n defnyddio’r gwasanaeth yn dioddef problemau iechyd meddwl.

 

Ers mis Ebrill 2013, mae’r Gronfa Cymorth Dewisol wedi cynorthwyo mwy na 103,000 o’r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru â mwy na £24 miliwn mewn grantiau. Mewn Arolwg Partner diweddar, nododd ymatebwyr fod y dyfarniadau’n cynyddu’r gallu i ymdopi â threuliau byw yn y tymor byr, yn annog pobl i fyw’n annibynnol, ac yn hyrwyddo ansawdd bywyd gwell a chamau i atal rhagor o broblemau i’r rhai a gafodd ddyfarniad.

 

Mae cynaliadwyedd yn fater allweddol o hyd i undebau credyd. Er mai sefydliadau annibynnol yw undebau credyd, cafodd Grŵp Cydweithredu’r Undebau Credyd, sydd wedi’i arwain gan swyddogion, ei sefydlu yn 2016 i hwyluso cynnydd mewn cydweithrediad. Gall materion fel didyniadau’r gyflogres, rhannu adnoddau a’r systemau y mae undebau credyd yn eu defnyddio i gyd gyfrannu at y nod hwn. Mae gwaith yn mynd rhagddo i ategu twf a datblygiad undebau credyd y tu hwnt i fis Mawrth 2017. 

 

Bydd y deilliannau sy’n gysylltiedig â gwaith ar gynhwysiant ariannol yn 2017-18 yn cyd-fynd â’r ymrwymiadau a nodir yn y Strategaeth Cynhwysiant Ariannol i ddarparu mynediad at wasanaethau ariannol a chredyd fforddiadwy, mynediad at wybodaeth ariannol, gan gynnwys cyngor ar ddyledion a meithrin dealltwriaeth a gallu ariannol. Mae’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Cynhwysiant Ariannol yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd a bydd yn cael ei gyhoeddi erbyn mis Rhagfyr 2016. Bydd y Strategaeth Cynhwysiant Ariannol yn ddull allweddol o gyflawni’r amcan newydd o gynorthwyo teuluoedd sy’n byw mewn tlodi i gynyddu incwm y cartref.

 

Cwblhawyd Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg fel rhan o’r Strategaeth Cynhwysiant Ariannol, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2016. Mae gwybodaeth ariannol, gan gynnwys cyngor ar ddyledion, ar gael o amryw o ffynonellau – ar-lein, dros y ffôn, ac wyneb yn wyneb. Mae’r Strategaeth Cynhwysiant Ariannol yn hyrwyddo’r gwaith o ddatblygu Fframwaith Ansawdd Gwybodaeth a Chyngor i Gymru ynghyd â’r broses o’i gyflwyno, a bydd y Fframwaith yn cynnwys ystyried y ddarpariaeth o wasanaethau yn y Gymraeg. 

 

Mae gwerth gweithgareddau cynhwysiant ariannol, yn arbennig gwybodaeth a chyngor ar ffurf mesurau ataliol, i’w weld yn eu rôl strategol gynyddol mewn cysylltiad ag iechyd a gofal cymdeithasol, ac o ran atal digartrefedd, yn ogystal â rheolaeth ariannol fel dull o atal pobl rhag mynd i ddyled. Gall cyngor annibynnol amserol ac o ansawdd da helpu pobl i ymdrin â’u problemau a rheoli eu bywydau i raddau mwy, ac arwain o bosibl at lai o ddibyniaeth ar y wladwriaeth drwy atal materion rhag gwaethygu. 

 

Cynyddu’r Cyflenwad o Dai

 

Dros oes y llywodraeth hon, byddwn yn gweithio mewn partneriaeth i ddarparu 20,000 yn ychwanegol o gartrefi fforddiadwy. Bydd buddsoddi arian cyhoeddus mewn adeiladu ac ailwampio cartrefi yn cyfrannu at economïau cenedlaethol a lleol, gan greu ac ategu swyddi a chyfleoedd hyfforddi. Mae adeiladu tai yn creu miloedd o brentisiaethau bob blwyddyn, mae’n darparu proses adfywio ehangach mewn ardaloedd o amddifadedd, mae’n creu manteision i gymunedau cyfan, ac mae’n gallu trawsnewid y cymunedau hynny. Mae mwy na £1.3bn wedi’i ddyrannu imi dros dymor y llywodraeth hon i ategu fy mlaenoriaethau o ran tai, a bydd £389m o hynny wedi’i glustnodi mewn cronfeydd wrth gefn i ategu’r ymrwymiad hwn wrth i gynlluniau gael eu datblygu ymhellach.

 

Mae adeiladu mwy o dai yn creu manteision pwysig y tu hwnt i roi to dros bennau pobl. Ochr yn ochr â’r manteision sydd wedi’u dogfennu’n helaeth o ran iechyd ac addysg y mae tai o ansawdd da yn eu darparu i blant ac i deuluoedd, mae adeiladu tai o bob deiliadaeth yn cael effaith gadarnhaol sylweddol ar economi Cymru ac ar ein cymunedau. Yn ôl ffigurau Trysorlys Ei Mawrhydi, mae’r sector tai yn creu 21 o swyddi fesul pob £1 miliwn a fuddsoddir mewn adeiladu cartrefi a 32 o swyddi fesul pob £1 miliwn a fuddsoddir mewn cynnal tai presennol. Mae adeiladu tai’n creu miloedd o brentisiaethau bob blwyddyn, mae’n darparu proses ehangach o adfywio mewn ardaloedd o amddifadedd, mae’n creu manteision i gymunedau cyfan, ac mae’n gallu trawsnewid y cymunedau hynny.

 

Rwy’n cynnig ei gwneud yn glir y bydd ein polisi o hyn ymlaen ar y cyflenwad o dai yn cydnabod yn benodol yr ymrwymiad i ategu amrywiaeth o ddeiliadaethau tai, er mwyn ymateb i ystod ehangach o anghenion o ran tai. Er mai darparu rhagor o eiddo cymdeithasol a gaiff ei rentu fydd fy mhrif flaenoriaeth o hyd, byddwn yn disgwyl i gydbwysedd y rhaglen symud tuag at ystod ehangach o ymyriadau erbyn diwedd y tymor hwn. Mae’r Rhaglen Lywodraethu yn ei gwneud yn glir bod y targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol eisoes yn cynnwys 6,000 a fydd yn cael eu darparu o dan gynllun Helpu i Brynu – Cymru. Mae hyn yn adlewyrchu llwyddiant y cynllun hwnnw o ran darparu llwybr i berchnogaeth fwy fforddiadwy ar dai, yn arbennig i’r rhai sy’n prynu am y tro cyntaf.

 

Yn ychwanegol at fy nghefnogaeth barhaus i Helpu i Brynu, mae’r Rhaglen Lywodraethu yn nodi’n glir ein hymrwymiad i ddatblygu cynnyrch Rhentu i Berchnogi. Mae swyddogion wedi dechrau gweithio i ganfod y model cyflawni cywir ar gyfer amgylchiadau Cymru. Byddaf yn sicrhau bod y cynllun wedi’i dargedu’n bennaf at unigolion sy’n gweithio a theuluoedd sy’n cael incwm canolog sy’n anelu at brynu eu cartref eu hunain ac sy’n gallu fforddio talu’r taliadau misol, ond nad ydynt yn gallu cynilo’r blaendal sydd ei angen i brynu cartref yn y ffordd arferol. 

 

Rwy’n pryderu bod prinder o gartrefi sy’n cael eu rheoli a’u cynnal yn dda yn y Sector Rhentu Preifat. Mae angen imi archwilio a allwn weithio gyda datblygwyr i ddwyn ymlaen brosiectau sy’n cynnig safonau uchel ac sy’n gofyn rhent islaw lefel y farchnad leol. Mae swyddogion wrthi’n ystyried dewisiadau ar gyfer cymell datblygiadau o’r math hwn. Rwyf hefyd yn cynnig cynorthwyo datblygiadau sy’n cyflawni manteision hirdymor i’r systemau iechyd a gofal cymdeithasol drwy gydweithio â darparwyr tai.  

 

Ochr yn ochr â’r angen i ganolbwyntio ar gyflawni’r targed rhifiadol, mae hefyd yn hanfodol fod y rhaglen adeiladu tai’n adlewyrchu golwg hirdymor ar effaith cartrefi newydd. Mae angen i ddyluniad, lleoliad ac effeithlonrwydd ynni cartrefi newydd fod yn fater pwysicach byth inni er mwyn inni adeiladu cymunedau llwyddiannus a chynaliadwy. Mae gwaith ymchwil wedi’i gomisiynu eisoes ynghylch modelau newydd o dai a fydd yn ein helpu i fynd i’r afael â rhai o’r prif heriau yr ydym yn eu hwynebu, gan gynnwys tlodi tanwydd, allyriadau carbon a’r newid yn yr hinsawdd.

 

Mae’r dystiolaeth sy’n dod i’r amlwg yn awgrymu bod adeiladu cartrefi sydd â’r dyluniadau newydd hyn yn gallu costio mwy na thai traddodiadol yn y tymor byr ond eu bod yn darparu manteision ehangach, yn arbennig i’r tenantiaid, ar ffurf costau rhedeg is. Y rhagdybiaeth gynllunio yw y dylai’r costau hyn leihau yn y tymor canolig i’r tymor hwy wrth i fwy o ddatblygwyr fabwysiadu’r dyluniadau newydd. Mae fy amcangyfrifon yn darparu ar gyfer 1,000 o gartrefi â dyluniad newydd ar gyfer tymor y llywodraeth hon gan gydnabod y bydd mwyafrif y cartrefi y disgwylir iddynt gael eu hadeiladu yn ystod y ddwy flynedd nesaf eisoes â dyluniadau a chaniatâd cynllunio y cytunwyd arnynt.

 

Yn hanesyddol, y ffordd fwyaf llwyddiannus o ddarparu cartrefi fforddiadwy fu drwy brif raglen y Grant Tai Cymdeithasol, sy’n darparu cartrefi i’r rhai sydd fwyaf agored i niwed ac sydd â’r angen mwyaf am dai. Mae’n dibynnu ar gydweithredu â Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ac awdurdodau lleol a’r Grant a gyfrannodd fwyaf at gyflawni’r targed o 10,000 o gartrefi yn y weinyddiaeth flaenorol.

 

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wedi sicrhau y byddaf i, fel y cynlluniwyd, yn gallu ehangu cynllun y Grant Cyllid Tai sy’n peri bod Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn benthyg 100% o’r gost o adeiladu cartrefi newydd yn uniongyrchol, ac yna’n ei had-dalu dros 30 mlynedd. O fis Ebrill 2017, bydd cynlluniau’r Grant Tai Cymdeithasol a’r Grant Cyllid Tai yn cael eu cyfuno at ddibenion cynllunio rhaglenni, a fydd yn sicrhau’r sefyllfa orau o ran y cyllid grant sydd ar gael a chapasiti’r sector.

 

Rwyf hefyd yn cynnig y bydd Partneriaeth Tai Cymru, sef partneriaeth o gymdeithasai tai yng Nghymru, yn cyfrannu at gyflawni’r targed, fel y gwnaeth yn y weinyddiaeth flaenorol. Mae’r Bartneriaeth yn prynu eiddo ac yna’n ei osod i gymdeithasau unigol am gyfnod o ddeng mlynedd. 

 

Mae tai ychwanegol hefyd yn chwarae rhan hollbwysig mewn atal digartrefedd, gan osgoi drwy hynny’r costau ychwanegol sylweddol sy’n gallu dod i ran awdurdodau lleol gan fod rhaid iddynt ddefnyddio llety dros dro mwy costus ynghyd ag effeithiau negyddol digartrefedd, a all fod yn gorfforol ac yn feddyliol.

 

Bydd datblygu tai fforddiadwy newydd â mwy o fesurau effeithlonrwydd ynni yn lleihau tlodi tanwydd. Byddai gostyngiadau mewn cyllidebau yn effeithio ar fy ngallu i ddatblygu cartrefi sydd â dyluniad arloesol a fydd yn fwy effeithlon o ran ynni ac yn gallu ymaddasu i hinsawdd sy’n newid.

 

Costau tai yw’r effaith bwysicaf a mwyaf uniongyrchol y mae tai’n ei chael ar dlodi ac amddifadedd materol – mae tua 72% o dai cymdeithasol yn cael eu gosod i’r rhai sy’n cael budd-daliadau. Fel rhan o’r gwasanaethau landlord y maent yn eu darparu, mae cymdeithasau tai yn cynorthwyo ac yn cefnogi eu tenantiaid drwy roi cyngor ar fudd-daliadau a thrwy gefnogi mentrau cymunedol. Mae tai presennol a thai newydd wedi’u hinsiwleiddio’n dda hefyd, sy’n helpu i leihau biliau ynni, gan helpu i fynd i’r afael â thlodi tanwydd.

 

Buddsoddi yn y stoc bresennol o dai cymdeithasol

 

Caiff y Lwfans Atgyweiriadau Mawr ei ddyrannu i sicrhau bod Safon Ansawdd Tai Cymru yn cael ei chyrraedd erbyn 2020 a’i bod yn cael ei chynnal wedi hynny. Mae’r buddsoddiad hwn yn ysgogi tua phedair gwaith y swm hwn gan landlordiaid ac, fel y nodir uchod, mae’n darparu llawer o swyddi a chyfleoedd hyfforddi mewn cymunedau lleol. Mae ffigurau a gafodd eu rhyddhau ar 6 Hydref 2016 yn dangos, ar ddiwedd mis Mawrth 2016, fod 79% o’r holl dai cymdeithasol yn cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru, sef cynnydd o 8 pwynt canrannol o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Rwy’n gweithio’n agos gyda landlordiaid cymdeithasol i sicrhau bod y Safon yn cael ei chyrraedd ac mae hyn yn cynnwys y gofyniad am gynlluniau busnes 30 mlynedd ac ymweliadau monitro rheolaidd.

 

Mae ymdrin â chaffael drwy ystyried manteision cymunedol yn uchafu ein buddsoddiad. Mae’r data diweddaraf gan Gwerth Cymru yn dangos bod 191 o Declynnau Mesur wedi’u dychwelyd gan gofnodi contractau â gwerth o £452m. Mae 82% o’r swm hwnnw wedi’i ail-fuddsoddi yng Nghymru. Cafodd 777 o bobl o dan anfantais eu cynorthwyo i gael swydd neu fynd i hyfforddiant. Darparwyd bron 20,000 wythnos o hyfforddiant ardystiedig.  

 

Oherwydd y buddsoddiad enfawr yr ydym wedi’i wneud yn y stoc bresennol o dai cymdeithasol, rwyf hefyd yn bwriadu ei hamddiffyn drwy fy nghynnig i roi terfyn ar yr Hawl i Brynu. Bydd Bil newydd yn cael ei gyflwyno ym mlwyddyn gyntaf ein rhaglen ddeddfwriaethol. Fydd hyn hefyd yn creu hyder ymhlith landlordiaid cymdeithasol i fuddsoddi ac adeiladu mwy o gatrefi newydd.

 

Mae buddsoddi mewn tai o ansawdd da yn cael effaith uniongyrchol ar iechyd a lles pobl, gan helpu’n sylweddol i leihau’r pwysau ar gyllidebau a gwasanaethau ym maes iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Mae hefyd â chyswllt cryf â chyrhaeddiad addysgol gan fod 25% o’r plant sydd mewn tai nad ydynt yn cyrraedd y safon yn eu cael eu hunain heb yr un TGAU. O gymharu â hynny, 10% yw’r ffigur yn achos plant nad ydynt yn byw mewn tai nad ydynt yn cyrraedd y safon.  Mae pob £1.20 sy’n cael ei wario ar gartrefi gweddus yn arbed £1.80 i’r trethdalwr oddi ar y gost sy’n gysylltiedig â phobl ifanc nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant. Mae hefyd yn peri bod modd darparu llawer o swyddi a chyfleoedd hyfforddi drwy ddull sy’n ystyried manteision cymunedol.

 

Digartrefedd

 

2017-18 yw trydedd flwyddyn y broses o drosglwyddo i’r ddeddfwriaeth newydd ar ddigartrefedd, a gyflwynwyd gan Ran 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014. Amcangyfrifwyd mai £1.9 miliwn oedd cost ychwanegol y ddeddfwriaeth ar gyfer y 3edd flwyddyn. Gwnaed yr asesiad fel rhan o waith manwl ar gyfer y Bil Tai ac fe’i cyhoeddwyd yn y Memorandwm Esboniadol / Asesiad Effaith Rheoliadol. Y bwriad yw sicrhau bod cyllid ychwanegol ar gael i awdurdodau lleol yn unol â’r angen hwn. Bydd hyn, ynghyd â phrosiectau a ariennir gan gyllideb Atal Digartrefedd, sydd wedi’i chynnal ar lefel o £5.9 miliwn, yn galluogi Awdurdodau Lleol a’u partneriaid lleol a chenedlaethol i adeiladu ar sail y canlyniadau calonogol iawn o ran atal, a welwyd ym mlwyddyn gyntaf y ddeddfwriaeth newydd.

 

Mae gwerthusiad annibynnol o’r ddeddfwriaeth wedi’i gomisiynu a chytunwyd ar ystadegyn atal newydd, sydd wrthi’n gweithredu. Mae swyddogion hefyd yn cael trafodaethau rheolaidd am arferion lleol â rhanddeiliaid, ac yn adolygu’r arferion hynny, i ganfod unrhyw anghenion am ddatblygiadau pellach. Mae’r rhain yn cynnwys treialu sesiynau hyfforddi byr fel bod staff Gwasanaethau Cymdeithasol yn ymgyfarwyddo â’r dyletswyddau digartrefedd ar awdurdodau lleol ac i egluro sut y gall pobl sydd mewn perygl o ddod yn ddigartref gael eu helpu i osgoi digartrefedd.

 

Mae Llwybr Enghreifftiol Cenedlaethol i atal cyn-droseddwyr rhag dod yn ddigartref pan gânt eu rhyddhau o’r ddalfa wedi’i ddatblygu ac mae’n cael ei weithredu gan sefydliadau datganoledig a’r rhai nad ydynt wedi’u datganoli yn gweithio mewn partneriaeth. Mae arwyddion calonogol o’r modd y mae’n gweithio i’w gweld o waith cychwynnol partneriaid o’i fonitro. Mae trefniadau terfynol wrthi’n cael eu llunio i gomisiynu adolygiad annibynnol o’r Llwybr.

 

Grant Cefnogi Pobl

 

Mae’r rhaglen yn parhau i gael ei datblygu â’r cyllid sydd ar gael (cyllideb lefel arian wastad ar gyfer blwyddyn ariannol 2016-17) er mwyn sicrhau ei bod yn cael ei defnyddio yn y modd gorau. Caiff y cymorth ei gomisiynu gan Awdurdodau Lleol a chan gynnwys Pwyllgorau Cydweithredol Rhanbarthol gan mai nhw sydd yn y sefyllfa orau i adnabod anghenion a blaenoriaethau lleol. Ymysg y disgwyliadau allweddol mae cysylltiadau gweithio agosach rhwng y rhaglen a gwasanaethau digartrefedd statudol, â rhaglenni fel Teuluoedd yn Gyntaf, gwasanaethau iechyd, a chydag Adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol, drwy Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol. Caiff data am ddeilliannau eu casglu ac adroddir arnynt. Mae swyddogion yn parhau i gynnal adolygiadau o’r dull o reoli’r rhaglen fesul awdurdod lleol. Mae effeithiau’r rhaglen – a’i manteision – o ran helpu i leihau’r gofynion ar y GIG wedi’u gwerthuso drwy gyfrwng dau brosiect – Prosiect Tai Gwasgaredig Bro Morgannwg a chronfa ddata Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL). Mae’r gronfa ddata hon, sy’n cysylltu data dienw o’r rhaglen â data’r GIG, yn cael ei hehangu erbyn hyn i gwmpasu Cymru gyfan.  

 

Adfywio

 

Mae’r rhaglen adfywio yn ddull pwysig o gyflawni ac ychwanegu gwerth at ein huchelgeisiau ehangach, fel gwaith Tasglu’r Cymoedd, y Metro a’r Cytundebau Dinas. Mae creu’r cysylltiadau hyn ac ychwanegu gwerth at y buddsoddiadau mawr hyn yn nod allweddol o’n rhaglen adfywio. Yn awr, mwy nag erioed, mae arnom angen gweledigaeth glir a phwrpasol i ategu lles ac adfywiad economaidd ein cymunedau.

 

Mae angen i’n trefi a’n dinasoedd fod yn amrywiol; maent yn fannau lle y mae pobl yn byw, yn gweithio, yn siopa ac yn cymdeithasu. Mae’n bwysig annog amrywiaeth a’i hategu. Mae arnom angen i bobl fyw a gweithio yng nghanol trefi gan fod hynny’n ychwanegu bywiogrwydd ac yn cynyddu nifer yr ymwelwyr, sy’n nodwedd bwysig, ac mae’n sbardun sy’n ategu gweithgareddau ehangach. 

 

Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid yw’r fframwaith adfywio presennol, sy’n cynnwys ein rhaglen adfywio gyfalaf flaenllaw a fuddsoddodd £124 miliwn mewn 18 o gymunedau dros y 3 blynedd ddiwethaf. Y rhaglen hon fu prif sbardun gweithgareddau adfywio yng Nghymru. Mae Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid yn darparu 2,000 o swyddi, mae’n cynorthwyo 9,000 o bobl i gael swydd, mae’n adeiladu 1,000 o gartrefi fforddiadwy a 2,000 o gartrefi i’r farchnad. Yn sgil ein buddsoddiad, mae £300m wedi’i ysgogi gan bartneriaid yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus.

 

Mae’r gyllideb wedi lleihau £47.728m, o £62.608m i £14.880m yn 2017/18, a symiau tebyg mewn blynyddoedd dilynol. Mae hyn yn cynnwys Cyllid Cyfatebol a Dargedir ar gyfer prosiectau â chyllid Ewropeaidd, gan gynnwys Adeiladu ar gyfer y Dyfodol. Er mwyn lliniaru’r gostyngiad hwn, byddaf yn gweithio gyda bwrdd Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio i sicrhau bod yr arian y mae’r Gronfa’n ei ddal ar hyn o bryd yn cael ei ryddhau cyn gynted ag y bo modd ar ffurf cyfraniadau at raglen adfywio. Rwyf hefyd yn anelu at fuddsoddi rhagor yn y maes hwn, os bydd rhagor o gyfalaf ar gael drwy Ddatganiad yr Hydref.

 

Asiantaethau Gofal a Thrwsio ac Addasiadau i’r Cartref

Mae’r gyllideb sy’n darparu cyllid creiddiol i Asiantaethau Gofal a Thrwsio wedi’i diogelu yn y flwyddyn ariannol hon. Y bwriad yw gwneud yr un peth y flwyddyn nesaf er mwyn diogelu gwasanaethau rheng flaen. Mae’r asiantaethau’n chwarae rhan allweddol o ran darparu addasiadau i gartrefi pobl. Mae’r rhain yn atal cwympiadau, y gall yr anafiadau a geir ohonynt arwain at bobl yn gorfod cael eu derbyn i’r ysbyty, ac maent hefyd yn gallu helpu gyda rhyddhau cleifion yn gynt ar ôl cyfnod yn yr ysbyty drwy sicrhau bod amgylchedd diogel, y gellir ei reoli, yn y cartref. Mae gwaith yr asiantaethau a’r hyn y maent yn ei gyflawni yn cael eu monitro. Maent yn chwarae rhan annatod yn y system addasiadau gwell. Mae teclyn casglu data newydd wedi’i ddatblygu a’i dreialu ac mae wrthi’n cael ei gyflwyno – bydd hwn yn casglu data ynglŷn â phob addasiad a ddarperir, nid yn unig Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl, sef un yn unig o blith nifer o raglenni sy’n darparu addasiadau, ond dyma’r unig ystadegyn a gofnodir.

 

Gwella Amodau (Benthyciadau Gwella Cartrefi a Troi Tai’n Gartrefi)

 

Ni ofynnwyd am ddim cyllid ychwanegol ar gyfer y cynlluniau hyn a chanolbwyntir ar sicrhau bod y cyllid presennol yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol. Mae awdurdodau lleol yn cwblhau datganiadau chwarterol i fonitro statws ariannol cyllid ad-daladwy Troi Tai’n Gartrefi/Benthyciadau Gwella Cartrefi. Mae hwn wedi’i ehangu i gynnwys cyllid grant Troi Tai’n Gartrefi. Mae datganiad gwerthuso drafft ar gyfer y cynlluniau wedi’i dreialu gyda’r awdurdodau lleol. Bydd hwn yn cael ei adolygu yn dilyn adborth gan yr awdurdodau lleol a bydd yn cael ei gyflwyno bob chwarter ar ôl cytuno ar y fformat.

 

Cynhaliwyd gwerthusiad annibynnol o’r elfen cyllid grant o Troi Tai’n Gartrefi ar ôl 3 mlynedd o weithredu. Mae argymhellion y gwerthusiad yn cael eu hystyried ar hyn o bryd o safbwynt eu gweithredu, ynghyd â nifer o newidiadau i gynllun Benthyciadau Gwella Cartrefi. Bydd y newidiadau’n sicrhau bod cynifer yn defnyddio’r ddau gynllun ag y bo modd. Fel rhan o’r newidiadau, rwy’n ystyried targed newydd ar gyfer Cartrefi Gwag a Ailddefnyddir. Rwy’n gweithio’n agos gyda’r grŵp llywio sy’n edrych ar ddiwygio’r dangosydd perfformiad presennol i adlewyrchu’r statws presennol yn fwy cywir.

 

Cyfranogiad Tenantiaid

 

O ganlyniad i waith ymchwil a gomisiynwyd gennym, mae’r trefniadau ar gyfer cynorthwyo cyfranogiad tenantiaid wedi’u gwella. Eleni, ac ers sawl blwyddyn, mae cyllid creiddiol wedi’i ddarparu i ddau sefydliad tenantiaid ar wahân (sef Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid Cymru, a Tenantiaid Cymru). Mae cyfle cystadleuol i gael dyfarniad grant wedi’i gynnig ac mae’r ceisiadau’n cael eu hasesu ar hyn o bryd, gyda’r bwriad o ddyfarnu grant dwy flynedd (£150,000 y flwyddyn) i ddatblygu a gweithredu dull mwy effeithiol. Bydd y dyfarniad dwy flynedd yn creu amser i roi’r dull newydd ar brawf a’i werthuso er mwyn llywio cyllid a datblygiadau yn y dyfodol.

 

Cydraddoldeb a Chynhwysiant

 

Mae cydraddoldebau’n sbardun sylfaenol ac yn elfen annatod o’r rhaglen Cydraddoldeb a Chynhwysiant. Mae’r rhaglen yn cynnwys cymorth ar draws y nodweddion gwarchodedig fel y’u diffinnir yn Neddf Cydraddoldeb 2010 a’r amcanion cydraddoldeb fel y’u nodir yn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol. Cafodd ymgynghoriad ar drefniadau rhaglen gyllido Cydraddoldeb a Chynhwysiant yn y dyfodol ei gwblhau yn 2015 a chafodd ymatebion, a oedd yn cynnwys yr angen i’r cyllid gwmpasu nodweddion gwarchodedig ac amcanion cydraddoldeb, eu hymgorffori’n rhan o ddyluniad y rhaglen newydd.

 

Mae’r Rhaglen Cydraddoldeb a Chynhwysiant yn ategu’r agenda trechu tlodi, ac mae swyddogion yn gweithio i sicrhau bod agendâu trechu tlodi, cydraddoldeb a hawliau plant yn cydblethu â’i gilydd. Mae’r dystiolaeth yn dangos bod pobl sydd â nodweddion gwarchodedig penodol, a fydd naill ai’n derbyn gwasanaethau, neu a fydd yn cael budd yn y pen draw o’r ffaith bod polisïau wedi’u creu sy’n deillio o wasanaethau cynghori, yn fwy tebygol o fod yn byw mewn tlodi e.e. pobl anabl a theuluoedd sydd ag aelodau anabl.

 

Bydd y Rhaglen Cydraddoldeb a Chynhwysiant yn cyfrannu at nodau’r Amcanion Cydraddoldeb a fydd yn rhan o uchafu ein cyfraniad at y Nodau Llesiant, yn arbennig nod llesiant ‘Cymru sy’n fwy cyfartal’, sy’n cynnwys cyfeiriad at anghydraddoldebau cymdeithasol-economaidd a’r nod o greu ‘Cymru o gymunedau cydlynus’.

 

Ar ben hynny, mae’r rhaglen Cydraddoldeb a Chynhwysiant:

•           yn ategu anghenion hirdymor pobl sydd â nodweddion gwarchodedig;

•           yn helpu i atal problemau yn y tymor hwy drwy ganfod y materion sy’n effeithio ar bobl sydd â nodweddion gwarchodedig yn gynnar yn y broses o lunio polisïau;

•           yn peri ein bod yn cydweithio â sefydliadau gan anelu at gyflawni’r nodau Llesiant;

•           yn galluogi pobl sydd â nodweddion gwarchodedig i gymryd rhan yn y gwaith o gyflawni’r nodau Llesiant.

 

Cyfleusterau Cymunedol

 

Bydd cyllideb y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol yn cael ei lleihau, o £10.95 miliwn yn 2016/17 i £2 filiwn yn 2017/18 a 2018/19 fel ei gilydd. Mae cyllidebau dangosol ar gyfer 2019/20 a 2020/21 yn dangos gostyngiad pellach. Byddaf yn parhau i ystyried blaenoriaethau wrth symud ymlaen, gan gynnwys y cyfleoedd a gyflwynir gan gronfeydd cyfalaf ychwanegol yn deillio o Ddatganiad yr Hydref.

 

 

6.            Deddfwriaeth

 

Deddfau, a Biliau pan fo Asesiad Effaith Rheoliadol wedi’i gyhoeddi

Teitl y Cam Gweithredu yn y Gyllideb

Amcangyfrif yr Asesiad Effaith Rheoliadol o’r costau yn 2017-18

Costau yn 2017-18 os ydynt yn wahanol i amcangyfrif yr Asesiad Effaith Rheoliadol

Cymunedau a Phlant

 

 

 

Deddf Tai (Cymru) 2014

Digartrefedd

1,900,000

 

Cymunedau a Threchu Tlodi (Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr)

5,000,000

3,300,000

Llywodraeth Leol

 

 

 

Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015

Cam-drin Domestig

331,500

 

 

Digartrefedd

 

Fel y nodir uchod, 2017-18 yw trydedd flwyddyn y broses o drosglwyddo i’r ddeddfwriaeth newydd ar ddigartrefedd, a gyflwynwyd gan Ran 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014. Amcangyfrifwyd mai £1.9 miliwn fyddai cost ychwanegol y ddeddfwriaeth ar gyfer y 3edd flwyddyn.

 

Gwella’r Sector Rhentu Preifat

 

Mae deialog barhaus yn mynd rhagddi â Chyngor Dinas Caerdydd, sef yr awdurdod trwyddedu dynodedig ar gyfer Rhentu Doeth Cymru (Rhan 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014), ynghylch ei roi ar waith. Bydd hyn yn nodi’r achosion pan fo buddsoddiadau ychwanegol, e.e. y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi eleni i weithgareddau cyfathrebu, yn synhwyrol ac o gymorth ar gyfer gweithredu’r ddeddfwriaeth.

 

Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

 

Mae’r camau ar gyfer gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn canolbwyntio ar raglen helaeth o is-ddeddfwriaeth. Nid oes dim costau ychwanegol i’w talu yn 2017-18.

 

Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr

 

Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn gosod dyletswyddau newydd ar awdurdodau lleol i fynd ati’n gywir i asesu anghenion Sipsiwn a Theithwyr am leiniau cartrefi symudol ac yna sicrhau bod digon o safleoedd yn cael eu creu. Cyn mis Ebrill 2014, nid oedd dim safleoedd awdurdodau lleol i Sipsiwn a Theithwyr wedi’u hagor yng Nghymru ers 1997. Ers mis Ebrill 2014 a thrwy gynyddu’r cyllid, rydym wedi agor dau safle newydd ac wedi ymestyn 5 yn rhagor drwy gyllid ein Grant Cyfalaf Safleoedd, gan greu 40 o leiniau ychwanegol.

 

O dan Ran 3 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”), rhaid i awdurdodau lleol gynnal Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr ar gyfer y rhai sy’n preswylio yn eu hardal neu sy’n cyrchu yno. Wedi iddynt gwblhau’r Asesiad hwn, rhaid i awdurdodau lleol baratoi adroddiad i’w gyflwyno i Weinidogion Cymru, ac i’w gymeradwyo ganddynt. Datblygwyd achos busnes drwy gyfeirio’n agos at Asesiadau Llety Sipsiwn a Theithwyr sy’n cael eu cyflwyno a deialog reolaidd â swyddogion Awdurdodau Lleol i sicrhau bod y galw am gyllid cyfalaf yn cael ei ystyried yn drylwyr.

 

O ganlyniad i’r achos busnes cychwynnol, nodwyd gofyniad o £29m rhwng 2014/15 a 2019/20 yng Nghynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru i ychwanegu at gyllideb llinell sylfaen flynyddol Grant Cyfalaf Safleoedd, sef £1.5m y flwyddyn. Roedd disgwyl i hyn ddarparu cronfa â chyfanswm o £36.5m tan ddiwedd 2019/20, gan gynnwys £5m yn 2017/18. Mae diwygiad diweddar i’r achos busnes, i adlewyrchu Asesiadau newydd o Lety Sipsiwn a Theithwyr ac amseriad datblygiadau, wedi dangos bod angen £26.4m rhwng 2017/18 a 2020/21, gan gynnwys £3.3m ar gyfer 2017/18. Dylai’r buddsoddiad hwn sicrhau bod tua 200 o leiniau’n cael eu darparu erbyn 2021.

 

Cam-drin Domestig

 

Daeth Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 i rym ym mis Ebrill 2015. Cafodd cyfanswm o £582,450 ei ddyrannu i weithredu’r Ddeddf sy’n cynnwys:

•           gweithredu’r Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol,

•           canllawiau statudol ar nifer o faterion;

•           ariannu’r Cynghorydd Cenedlaethol, a

•           Chyhoeddusrwydd.

 

Cafodd y Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol ei gyhoeddi ar 17 Mawrth 2016. Fel rhan o’r Fframwaith, mae Llywodraeth Cymru yn ariannu’r broses o ddatblygu a darparu hyfforddiant ar gyfer Gofyn a Gweithredu, sy’n cael ei dreialu ar hyn o bryd mewn 2 safle Mabwysiadu, drwy gyfrwng Cymorth i Ferched Cymru dros y 5 mlynedd nesaf. Mae’r Strategaeth Genedlaethol yn ofyniad yn y Ddeddf a bydd yn cael ei chyhoeddi ar 4 Tachwedd. Bydd wedi’i seilio ar gynllun cyflawni manwl a fydd yn amlinellu gweithgareddau yn y strategaeth ac, ochr yn ochr â dangosyddion cenedlaethol, bydd yn ein galluogi i fonitro a ydym yn cyflawni’r amcanion a nodwyd yn y strategaeth.

 

Ymgymerodd Rhian Bowen-Davies â’i swydd yn Gynghorydd Cenedlaethol ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, sef y swydd gyntaf o’r math hwn yn y DU, ar 28 Medi 2015; pennir y swydd am gyfnod cychwynnol o dair blynedd.

 

 

Carl Sargeant

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant


CYMUNEDAU A PHLANT - PRIF GRŴP GWARIANT (MEG)

 

 

 

 

CYLLIDEB ADNODDAU – Terfyn Gwariant Adrannol

 

 

 

 

Maes Rhaglenni Gwariant

Gweithredu

Teitl y BEL

 2015-16
Alldro Terfynol
£000oedd

2016-17
Alldro Rhagolygol
£000oedd

2017-18
Dyraniadau’r Gyllideb Ddrafft

Rhannau perthnasol o:

Galluogi Plant a Chymunedau

Atal ac Ymyrryd yn Fuan

Atal ac Ymyrryd yn Fuan

160,788

155,533

154,383

Cynhwysiant Ariannol a'r Trydydd Sector

Cymorth i’r Sector Gwirfoddol/Gwirfoddoli

                  6,800

6,125

6,125

Cynhwysiant Ariannol

                13,349

13,927

13,927

 

 

180,937

175,585

174,435

Cymunedau Diogelach


Gwasanaethau Tân ac Achub

Gwasanaethau Tân ac Achub

                  5,498

4,299

4,299

Diogelwch Tân Cymunedol

                  1,093

848

848

Cam-drin Domestig

Y Grant Gwasanaethau Trais Domestig

                  4,313

4,500

4,500

Hybu ymgysylltiad cadarnhaol i bobl ifanc

Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid

                  5,165

4,420

4,420

 

Cyfanswm Cymunedau Diogelach

 

16,069

14,067

14,067

Cydraddoldeb a Chynhwysiant

Cydraddoldeb a Chynhwysiant

Cydlyniant Cymunedol

                     186

200

200

Cydraddoldeb

                  2,311

2,034

2,034

 

Cyfanswm Cydraddoldeb a Chynhwysiant

 

2,497

2,234

2,234

Polisi Tai

Cefnogi Pobl

Cefnogi Pobl

              124,025

124,488

124,488

Atal Digartrefedd

Atal Digartrefedd

                11,793

5,907

5,907

Byw’n Annibynnol

Byw’n Annibynnol

                  5,662

5,159

5,159

 

Cyfanswm Polisi Tai

 

141,480

135,554

135,554

Cartrefi a Lleoedd

Cynyddu'r Cyflenwad a'r Dewis o Dai Fforddiadwy

Bond Tai

                  4,022

4,100

7,700

Cyllid Refeniw Tai

Cyllid Refeniw Tai

                     290

1,073

1,073

Adfywio

Adfywio

                  4,026

2,040

2,540

Awdurdod Harbwr Caerdydd

                  6,228

6,790

6,790

 

Cyfanswm Cartrefi a Lleoedd

 

14,566

14,003

18,103

 

Cyfanswm Adnoddau - Cymunedau

355,549

341,443

344,393

 

 

 

 

 

 

 

 

 

CYLLIDEB CYFALAF - Terfyn Gwariant Adrannol

 

 

 

 

Maes Rhaglenni Gwariant

Gweithredu

 

 2015-16
Alldro Terfynol
£000oedd

2016-17
Cyllideb Derfynol
£000oedd

2017-18
Dyraniadau’r Gyllideb Ddrafft

Cymunedau a Threchu Tlodi

Cymunedau a Threchu Tlodi

Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr

                  3,576

2,000

3,301

Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol

                  3,227

10,950

2,000

 

Cyfanswm Cymunedau a Threchu Tlodi

6,803

12,950

5,301

Cymunedau Diogelach


Gwasanaethau Tân ac Achub

Gwasanaethau Tân ac Achub

                     694

1,000

1,300

Diogelwch Tân Cymunedol

                     670

670

670

Cam-drin Domestig

Y Grant Gwasanaethau Trais Domestig

                  1,165

969

969

 

Cyfanswm Cymunedau Diogelach

 

2,529

2,639

2,939

Polisi Tai

Byw’n Annibynnol

Y Rhaglen Addasiadau Brys

                  1,641

5,641

5,660

Y Gronfa Fuddsoddi Gofal Canolraddol

Y Gronfa Fuddsoddi Gofal Canolraddol

-                    271

10,000

10,000

 

Cyfanswm Polisi Tai

 

1,370

15,641

15,660

Cartrefi a Lleoedd

Sicrhau Tai o Ansawdd Uchel

Lwfans Atgyweiriadau Mawr a Gwaddoli

              104,200

108,000

108,000

Cymorth Cyffredinol Tai

                37,470

37,470

0

Ardaloedd Adnewyddu

                  7,162

8,029

0

Cynllun Benthyciadau Gwella Cartrefi

                13,000

0

0

Cynyddu'r Cyflenwad a'r Dewis o Dai Fforddiadwy

Grantiau Tai Cymdeithasol

                95,744

64,534

69,432

Tir ar gyfer Tai Fforddiadwy

                19,244

10,000

10,000

Gofal Ychwanegol

                         0  

4,301

4,301

Cynyddu’r Cyflenwad a’r Dewis o Dai’r Farchnad

Cronfa Cymorth i Brynu - Cymru a chynlluniau eraill

                71,000

26,310

103,337

Adfywio

Adfywio Canol Trefi

                  5,000

10,000

2,595

Cronfa Gyfalaf Gyffredinol

                10,888

10,888

0

Adfywio

                43,479

62,608

14,880

 

Cyfanswm Cartrefi a Lleoedd

 

407,187

342,140

312,545

 

 

 

 

 

 

Cyfanswm Cyfalaf – Cymunedau a Phlant

417,889

373,370

336,445

CYLLIDEB ADNODDAU – Gwariant a Reolir yn Flynyddol

 

 

 

 

Maes Rhaglenni Gwariant

Gweithredu

Teitl y BEL

 2015-16
Alldro Terfynol
£000oedd

2016-17
Cyllideb Derfynol
£000oedd

2017-18
Dyraniadau’r Gyllideb Ddrafft

Cymunedau Diogelach

Gwasanaethau Tân ac Achub

Pensiynau’r Gwasanaeth Tân

                26,125

32,627

31,389

 

Cyfanswm Cymunedau Diogelach 

26,125

32,627

31,389

 

 

 

 

 

 

 

Cyfanswm AME – Cymunedau a Phlant

26,125

32,627

31,389

 

CYLLIDEB GYFALAF – Terfyn Gwariant Adrannol

 

 

 

 

 

 

 

Maes Rhaglenni Gwariant

Gweithredu

BEL

2017-18

2018-19

2019-20

2020-21

 

Cymunedau a Threchu Tlodi

Cymunedau a Threchu Tlodi

Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr

3,301

9,816

8,300

5,000

 

Y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol

2,000

2,000

517

419

 

 

Cyfanswm Cymunedau a Threchu Tlodi

 

 

 

 

 

Cymunedau Diogelach


Gwasanaethau Tân ac Achub

Gwasanaethau Tân ac Achub

1,300

1,200

1,500

1,000

 

Diogelwch Tân Cymunedol

670

670

670

670

 

Cam-drin Domestig

Y Grant Gwasanaethau Trais Domestig

969

969

969

969

 

 

Cyfanswm Cymunedau Diogelach 

2,939

2,839

3,139

2,639

 

Polisi Tai

Byw'n Annibynnol

Y Rhaglen Addasiadau Brys

5,660

5,660

5,660

5,660

 

Y Gronfa Fuddsoddi Gofal Canolraddol

Y Gronfa Fuddsoddi Gofal Canolraddol

10,000

10,000

10,000

10,000

 

 

Cyfanswm Polisi Tai

 

15,660

15,660

15,660

15,660

 

Cartrefi a Lleoedd

Sicrhau Tai o Ansawdd Uchel

Lwfans Atgyweiriadau Mawr a Gwaddoli

108,000

108,000

108,000

108,000

 

Cynyddu'r Cyflenwad a'r Dewis o Dai Fforddiadwy

Grantiau Tai Cymdeithasol

69,432

35,959

15,704

15,793

 

Tir ar gyfer Tai Fforddiadwy

10,000

10,000

10,000

10,000

 

Gofal Ychwanegol

4,301

4,301

0

0

 

Cynyddu’r Cyflenwad a’r Dewis o Dai’r Farchnad

Cronfa Cymorth i Brynu - Cymru a chynlluniau eraill

103,337

88,748

63,067

34,700

 

Adfywio

Adfywio Canol Trefi

2,595

0

0

0

 

Adfywio

14,880

11,921

13,662

11,808

 

 

Cyfanswm Cartrefi a Lleoedd

 

312,545

258,929

210,433

180,301

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cyfanswm Cyfalaf - Cymunedau

 

 

 

 

 

 

Tai – mewn cronfeydd wrth gefn

     49,777

    137,778

   107,515

     94,354